Campws Llambed

Ar ddydd Iau, 27 Chwefror, cynhaliodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyfarfod cyhoeddus agored ar ei champws yn Llambed. O dan gadeiryddiaeth Elin Jones, AS, roedd y cyfarfod yn gyfle i Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Elwen Evans a’i thîm gadarnhau ymrwymiad y Brifysgol i’r campws.  Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys cynrychiolwyr lleol i adnabod gweithgareddau priodol sy’n gysylltiedig ag addysg, a all ddod â budd economaidd hirdymor, cynaliadwy i’r campws a’r gymuned leol.

Cadarnhawyd nad oes unrhyw gynlluniau i gau’r campws, ac mae’r Brifysgol yn bwriadu parhau i gynnig ei gweithgareddau cynadledda a llogi lleoliadau yn ogystal â threfniadau eraill dan gontract. Bydd yr holl ymrwymiadau presennol, anffurfiol, ar gyfer defnyddio ei chyfleusterau gan y gymuned leol yn parhau tan ddiwedd tymor yr haf ym mis Gorffennaf 2025, ac ar ôl hynny bydd yn rhaid eu hadolygu a’u hystyried fesul achos.

Mae’r Brifysgol wedi cynnal cyfarfodydd gyda chynrychiolwyr grwpiau rhanddeiliaid allweddol ac mae’n parhau i archwilio amrywiaeth o weithgareddau economaidd hyfyw sy’n gysylltiedig ag addysg a fyddai’n dod â bywyd newydd, cynaliadwy i’r campws.

Bydd Grŵp Rhanddeiliaid Allweddol o gynrychiolwyr gan gynnwys gwleidyddion lleol, busnesau, arweinwyr cymunedol a grwpiau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol yn cwrdd ddiwedd mis Mawrth.  Bydd yr aelodau’n gweithio gyda’i gilydd i gynhyrchu ac ystyried cynigion hyfyw ar gyfer ailddychmygu bywiogrwydd y campws gan ymchwilio i weithgareddau addysgol a masnachol amgen ar gyfer campws Llambed, a fydd y gobeithiwn hefyd yn dod â chyfleoedd newydd i’r gymuned leol.

Llunio dyfodol Campws Llanbedr Pont Steffan

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gwahodd aelodau o’r gymuned leol i gyfrannu eu cynigion ar gyfer defnydd campws Llanbedr Pont Steffan yn y dyfodol. Wrth i ni symud o ddarpariaeth addysgedig yn y Dyniaethau, ar y campws, rydym yn cydnabod arwyddocâd y safle hwn a’i botensial i barhau i wasanaethu’r gymuned mewn ffyrdd ystyrlon.

Gyda hyn mewn golwg, fel rhan o’r ymgynghoriad cyhoeddus parhaus a’r arfarnu opsiynau, rydym yn gwahodd cyflwyno cynigion ar gyfer y defnydd o’r campws yn y dyfodol drwy ddilyn y ddolen isod.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses hon, cyfeiriwch ymholiadau at: campwsllambed@pcydds.ac.uk 

© 2025 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Elusen Gofrestredig: Rhif 1149535.