Diweddariad cynnydd: 18 Medi 2026
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch o rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau ers y cyhoeddiad bod y Brifysgol a Chyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo eu huchelgais ar y cyd i’r campws ddod yn ganolfan ar gyfer addysg a sgiliau galwedigaethol ôl-16.
Addysg: Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr/Coleg Ceredigion, a Chyngor Sir Ceredigion yn cydweithio i ddeall y cwricwlwm galwedigaethol sy’n cael ei ddarparu yng Ngheredigion ar hyn o bryd. Mae dadansoddiad o anghenion sgiliau cyflogwyr rhanbarthol wedi’i gynnal gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru i lywio ein cynllunio, ac mae cynllun ar y cyd i gyflenwi cyrsiau galwedigaethol ôl-16 ar gyfer y rhanbarth yn cael ei ddatblygu. Bydd hyn yn nodi pa gyrsiau y gellir eu darparu o’r campws o fis Medi 2027 ymlaen.
Mae’r campws hefyd yn parhau i gefnogi gweithgarwch addysgol, er enghraifft y Cynllun Sabothol Cenedlaethol i Athrawon, a llety i’n myfyrwyr Archaeoleg sy’n ymgymryd â chloddiadau.
Mae’r Cyngor hefyd wedi prynu Fferm Llettytwppa ger campws Llanbedr Pont Steffan, a fydd yn cefnogi’r cyrsiau arfaethedig mewn amaethyddiaeth. Mae cyrsiau prentisiaeth amaethyddol Cyngor Sir Ceredigion eisoes wedi dechrau ar y fferm.
Cynadledda/digwyddiadau: Mae’r Brifysgol yn parhau i gynnal digwyddiadau a chynadleddau ar y campws, gan gynnwys cyrsiau dysgu Cymraeg preswyl.
Yn gysylltiedig, mae cais i Fargen Twf Canolbarth Cymru yn cael ei ddatblygu, i geisio cyllid ar gyfer datblygu cyfleusterau i gefnogi menter wledig gynaliadwy o’r campws. Bwriedir i’r cyllid hwn gyfrannu tuag at adnewyddu calon hanesyddol campws Llanbedr Pont Steffan, yn enwedig yr Hen Adeilad, ac Adeilad Lloyd Thomas, a bydd yn ceisio cefnogi’r gwaith o weithredu model “fferm-i-fforc” ar y cyd â Fferm Llettytwppa a darparwyr rhanbarthol.
Cyfleusterau cymunedol: Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Chyngor Sir Ceredigion hefyd yn cydweithio i ddatblygu cynnig chwaraeon gwell ar gyfer y campws a’r rhanbarth, gyda’r uchelgais o ddarparu cyfleusterau newydd a fyddai ar gael i ddysgwyr a’r gymuned fel ei gilydd.
Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu wrth i ddatblygiadau fynd rhagddo.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses hon, cyfeiriwch ymholiadau at: campwsllambed@pcydds.ac.uk
© 2025 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Elusen Gofrestredig: Rhif 1149535.